Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-05-955

 

Teitl y ddeiseb: Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr

 

Testun y ddeiseb: Am y rhesymau a roddir isod, rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr. Mae Costain yn ffafrio opsiwn B a’r bwriad yw iddi gael ei gweithredu ym mis Ebrill 2020. Ni fydd mynedfa i Fryn-mawr nac allanfa ohoni o’r Cwm Gorllewinol. Bydd Opsiwn B yn peri cynnydd dramatig yn y traffig mawr sydd eisoes yn mynd trwy Gendl a Bryn-mawr gan na fydd gan yrwyr sy'n teithio tua’r gorllewin ffordd o ddefnyddio’r A465 o ardaloedd y cwm gorllewinol, e.e. Nant-y-glo, y Blaenau, Abertyleri, Aber-big, Llanhiledd, Blaenafon ac ati. Bydd goblygiadau i fasnachwyr yn nhrefi Cendl a Bryn-mawr, sydd eisoes yn ei chael yn anodd, gan y bydd traffig sy'n teithio o'r dwyrain yn osgoi’r trefi hyn. Hefyd, bydd yr effaith amgylcheddol ar y ddwy dref yn annerbyniol oherwydd y cynnydd mewn allyriadau carbon o draffig araf sydd, yn ystod yr oriau brig, yn sefyll yn stond. Mae cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell ar y ffordd trwy Gendl; fodd bynnag, ni fydd traffig trwm dros 7.5 tunnell yn gallu cyrraedd A465 heb deithio trwy Gendl a Bryn-mawr. Bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn wynebu gwyriad o hyd at chwe milltir i ddefnyddio'r A465.

 

1.     Y cefndir

O dan Ddeddf Priffyrdd 1980, Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru. Mae rhwydwaith hwn yn cynnwys yr A465, sef ‘Ffordd Blaenau'r Cymoedd', sy'n rhedeg o'r Fenni i Gastell-nedd.

Ffordd yr A465 - Rhan 2

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â phrosiect i ddeuoli 40km o'r ffordd rhwng y Fenni a Hirwaun. Cafodd y prosiect ei rannu yn chwe rhan er mwyn hwyluso’r broses o’i roi ar waith fesul cam. Mae’r prosiect yn cynnwys cynllun i ledu'r ffordd rhwng Gilwern a Brynmawr, sef Rhan 2 o'r prosiect. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi trosolwg o'r cynllun a nifer o ddogfennau yn ymwneud ag ef.

Mae'r rhan hon o'r prosiect yn cynnwys creu dwy lôn ar ddarn 8km o'r ffordd, a hynny i’r ddau gyfeiriad. Dyfarnwyd y prosiect i gwmni Costain gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2011.

Cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus ym mis Mawrth 2014, ac ym mis Hydref 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru lythyr penderfyniad yn cadarnhau'r Gorchmynion ar gyfer y cynllun.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau yn 2018. Mae gwefan Llywodraeth Cymru bellach yn nodi y bydd y cynllun yn cael ei gwblhau yn nhymor y gwanwyn 2021.

Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ar y cynllun. Mae’r adroddiad yn nodi y bydd y cynllun:

…yn costio tua £100 miliwn yn fwy i bwrs y wlad nag a amcangyfrifwyd ar ddechrau’r gwaith adeiladu ac yn cymryd mwy na dwy flynedd yn hwy na’r disgwyl i’w gwblhau.

Bu anghydfod cyfreithiol hefyd rhwng Llywodraeth Cymru a Costain, sydd wedi bod yn destun adroddiadau yn y cyfryngau.

Opsiynau ar gyfer trefn ffyrdd dros dro

Mae'r ddeiseb hon yn ymwneud â newidiadau i’r drefn ffyrdd dros dro sydd eisoes ar waith o amgylch cylchdro Brynmawr a fydd yn hwyluso rhai agweddau ar y gwaith. Yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn disgrifio'r cynnig fel:

…newid sylweddol i’r drefn ffyrdd dros dro…sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau’r prosiect

Mae llythyr y Gweinidog yn nodi bod dau opsiwn wedi’u hystyried ar gyfer y drefn ffyrdd dros dro. Dywed y Gweinidog:

…mae’r gwaith o ystyried yr opsiynau wedi dangos nad oes opsiwn na fydd yn amharu ar yr ardal…nodwyd dau brif opsiwn fel y rhai a oedd fwyaf tebygol o fodloni gofynion y prosiect, sef Opsiwn A ac Opsiwn B.

Mae'r Gweinidog o'r farn “mai Opsiwn B yw’r opsiwn gorau at ei gilydd.”

Mae'r deisebwyr yn codi pryderon ynghylch yr effaith y byddai opsiwn B yn ei chael. Mae llythyr y Gweinidog at y Cadeirydd yn nodi y byddai’r ffordd ymadael tua’r gorllewin i Frynmawr ar gau nes bod y prosiect bron wedi cael ei gwblhau, ac y byddai’r ffordd ymuno tua’r gorllewin ar gau am dri mis.  Mae'r deisebwyr yn pryderu ynghylch yr effaith y byddai hyn yn ei chael ar fasnach ym Mrynmawr, ynghylch y posibilrwydd y byddai cerbydau trwm yn teithio drwy Gendl, ac ynghylch yr oedi a’r tagfeydd y byddai'r gwyriad yn eu hachosi.

Mae effeithiau'r cynnig hefyd wedi bod yn destun adroddiadau yn y cyfryngau.

Yn ei lythyr at y Cadeirydd, mae’r Gweinidog yn nodi:

… bod y modelu traffig a gynhaliwyd yn nodi y byddai teithwyr yn cyrraedd Bryn-mawr yn gyflymach o dan Opsiwn B…Disgwylir i Opsiwn B wella amseroedd teithio yn gyffredinol, a lleihau’r temtasiwn i ddefnyddio ffyrdd lleol, wrth i ddibynadwyedd wella. Dylai’r dargyfeiriad gymryd tua saith munud.  

Mae’r Gweinidog hefyd yn nodi bod terfyn pwysau o 7.5 tunnell ar gyfer cerbydau sy’n teithio drwy Gendl, a bod arwyddion sy’n hysbysu gyrwyr am y terfyn pwysau ymlaen llaw wedi’u hatgyfnerthu.

 

Ymgynghoriad cyhoeddus

Roedd disgwyl i arddangosfeydd cyhoeddus gael eu cynnal ym mis Mawrth 2020 er mwyn amlinellu effeithiau'r ddau opsiwn. Yn dilyn hynny, byddai Llywodraeth Cymru:

… [yn gobeithio] y bydd nifer o’r rheini sydd wedi llofnodi’r ddeiseb yn deall pam mai Opsiwn B yw’r opsiwn gorau at ei gilydd.

Yn sgil pandemig y coronafeirws, mae'r digwyddiadau hyn wedi'u gohirio. Fodd bynnag, yn ei lythyr at y Cadeirydd, dywed y Gweinidog na fydd newidiadau yn digwydd nes bod y gwaith ymgysylltu hwn wedi cael ei gynnal.

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddwyd datganiad ar gyfrif Twitter swyddogol y prosiect ynghylch y digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus a oedd wedi’u gohirio. Roedd y datganiad yn dweud:

We are currently exploring alternative methods to communicate the options and we will publicise these as soon as is possible in the current circumstances and at the latest by mid-April.

Ar 29 Ebrill, ar adeg ysgrifennu'r brîff hwn, nid oedd unrhyw wybodaeth bellach ar gael am y digwyddiadau dan sylw.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru

Ar 19 Chwefror 2020, cyhoeddodd Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ran 2 o’r cynllun.

Er na chafwyd trafodaeth yn y Senedd ar yr opsiynau ar gyfer y drefn ffyrdd dros dro mewn perthynas â’r agwedd hon ar y gwaith, codwyd nifer o gwestiynau eisoes ynghylch y cynllun cyffredinol. Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd yn bwriadu cynnal ymchwiliad i'r cynllun yn sgil y ffaith bod gwariant ar y prosiect yn uwch na’r gyllideb a’r ffaith ei fod yn destun oedi sylweddol.

Yn fwyaf diweddar, roedd effaith pandemig y coronafeirws ar waith adeiladu, a’r oedi pellach a welwyd mewn perthynas â phrosiectau o ganlyniad i hynny, yn un o’r materion a godwyd yn y Cyfarfod Llawn. Dywedodd y Gweinidog:

…rwy'n credu ein bod wedi gweld adeiladu mewn nifer o ardaloedd yn cael ei gynnal er mwyn cefnogi'r ymdrech iechyd a'r economi sydd ar waith ar hyn o bryd…yr A465 hefyd—darn hanfodol o seilwaith economaidd a fydd yn ganolog i'r economi ranbarthol a'r broses o ymadfer wedi'r coronafeirws yn y blynyddoedd i ddod.